Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 14 Mawrth 2018.
Fis wedi iddo gael ei benodi'n Arglwydd Brif Ustus, rhoddodd yr Arglwydd Thomas ddarlith yn dweud bod cyfreithwyr Ewrop yn edmygu system gyfreithiol Cymru a Lloegr oherwydd ei hannibyniaeth, ei phroffesiynoldeb a'r ffaith ei bod wedi bod yn sylfaen hanfodol i'n ffordd ddemocrataidd o fyw, ac i'n ffyniant cyffredinol ers cannoedd o flynyddoedd. Er bod llawer ohonom yn gyfarwydd â rhesymeg awdurdodaeth yn dilyn deddfwrfa ac yn gwybod bod ein sefyllfa bresennol yn un anarferol, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod y comisiwn yn cynnig y dull cywir i sicrhau ystyriaeth ofalus a rhywfaint o bwyll cyn ceisio gwahanu neu neilltuo ein hunain oddi wrth awdurdodaeth a rennir sy'n gymaint o lwyddiant â'r un a ddisgrifiwyd gan yr Arglwydd Thomas?