Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 14 Mawrth 2018.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Yn ôl y canllawiau a nodir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a'r Adran Drafnidiaeth, gall awdurdodau codi tâl, fel y'u gelwir, sefydlu parthau aer glân o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Nawr, fel y gŵyr, dim ond y cynlluniau codi tâl ar gefnffyrdd a materion sy'n ymwneud â Deddf Rheoli Traffig 2004 a esemptir gan Ddeddf Cymru 2017 oddi ar ei rhestr o bwerau trafnidiaeth a gedwir yn ôl. Felly, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn rhagweld unrhyw anawsterau wrth sefydlu parthau aer glân yng Nghymru, yn enwedig pan fônt yn cynnwys ffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd?