Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 14 Mawrth 2018.
Mae safbwynt yr Aelod ar hyn yn glir iawn ac mae'n ei ailadrodd bob cyfle posibl. Mae gennym safbwynt sylfaenol wahanol o ran beth yw natur bod yn ddinesydd sy'n byw yn yr UE yn yr unfed ganrif ar hugain. Fel y rhan fwyaf o Aelodau'r Siambr hon, credaf ei bod yn bwysig fod dinasyddion Cymru, dinasyddion y DU, yn cael symud yn rhydd ac yn gallu byw'n rhydd cyn belled â phosibl yn y dyfodol ledled gweddill yr UE, ac yn yr un modd, fod Cymru'n parhau i fod yn agored a chroesawgar i ddinasyddion o wledydd eraill sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i'n heconomi ac i'n diwylliant. A dyna fy safbwynt i a safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd.