Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 14 Mawrth 2018.
Gwnsler Cyffredinol, croesewir y ffaith bod y contract economaidd newydd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau wneud y peth iawn a chyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru megis gwaith teg a datgarboneiddio. Mae'n berthynas gyfreithiol gyda'r busnesau hyn, ac mae'n rhaid iddynt ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt, ac mae'n rhaid diogelu Llywodraeth Cymru hefyd os na chyflawnir hyn. Pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio'r contractau hyn i gyflawni ei nodau ar gyfer datblygu economi Cymru a gwneud yn siŵr fod cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddiogelu os nad ydynt yn gwneud hynny?