Islamoffobia

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:53, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, yn wir. Mae ein cymunedau Mwslimaidd yn cael eu gwerthfawrogi yng Nghymru, ac rydym yn rhannu eu hatgasedd tuag at yr ymgyrch gwbl warthus hon. Rydym wedi sefydlu strwythurau yng Nghymru i fynd i'r afael â phob math o eithafiaeth a throseddau casineb. Daw'r rhain ynghyd o dan ein bwrdd eithafiaeth CONTEST a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb.