8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Cwmnïau Rheoli Ystadau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 3:31, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Os ydych eisiau prynu'r tŷ, mae'n rhaid i chi lofnodi'r weithred, ac os byddwch yn llofnodi'r weithred, rydych yn clymu eich hun at hynny'n union, am y cyfnod o amser y byddwch yn berchen ar y tŷ, ac mae'n rhaid i'r bobl sy'n prynu'r tŷ ar eich ôl dalu'r ffi rheoli ystadau hefyd. Mae'n hurt, yn enwedig pan fydd yr ystâd yn cael ei mabwysiadu, ar y cyfan, yn y pen draw. Mae'n wallgof.

Mae yna gorff rheoleiddio—sef y Gymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl—ond mae'n wirfoddol, ac ar hyn o bryd gall unrhyw un sefydlu cwmni rheoli eiddo ac ystadau. Gallai unrhyw un ohonom yn yr ystafell hon ddod at ei gilydd—gallai rhai ohonom ddod at ein gilydd, sefydlu cwmni rheoli ystadau, a'i ddefnyddio fel trwydded i argraffu arian. Dyna sy'n digwydd i bob pwrpas. Credaf y dylai'r Gymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl fod yn gorff statudol y mae'n rhaid i fusnesau fod yn aelodau ohono i allu masnachu.