8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Cwmnïau Rheoli Ystadau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 3:32, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Yn wir, ac o hyn y tyfasant, lle roedd blociau o fflatiau yn Llundain.

Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r cyfle hwn i wneud yn siŵr nad yw perchnogion eiddo rhydd-ddaliadol ar eu colled, a'u bod yn cael yr un hawliau â lesddeiliaid—oherwydd, mewn gwirionedd, mae gan lesddeiliaid fwy o hawliau yn hyn o beth—o ran herio penderfyniadau cwmnïau rheoli preswylwyr, a'u hasiantaethau penodedig. Rydym angen i gwmnïau rheoli eiddo ac ystadau gael eu proffesiynoli'n briodol, a'u rheoleiddio, fel y gwneir gyda chyrff proffesiynol eraill, i atal masnachwyr diegwyddor, a phobl sy'n cymryd mantais o berchnogion cartrefi diniwed. Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno ei Phapur Gwyn, 'Fixing our broken housing market', a fydd yn cynnwys argymhellion. Os na weithredwn yn awr, wrth i ni gael mwy a mwy o ystadau newydd, byddwn yn cael ein gadael ar ôl. Credaf fod angen i Lywodraeth Cymru weithredu.