8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Cwmnïau Rheoli Ystadau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 3:51, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Ychydig iawn o amser sydd gennyf. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Suzy Davies, a ddefnyddiodd ei harbenigedd a'i gwybodaeth broffesiynol i gefnogi fy nghyfraniad, ac roedd y sgwrs a gefais gyda hi ddoe yn ddefnyddiol iawn; i Bethan Sayed yn ogystal; i Gareth Bennett, diolch i chi am gyflwyno'r mater yn y Pwyllgor Busnes—rwy'n  gwerthfawrogi hynny'n fawr; i David Melding a Dai Lloyd. Mewn gwirionedd, yr hyn a wnaethoch oedd ychwanegu'r darnau nad oedd gennyf amser ar eu cyfer. Felly, diolch yn fawr iawn.

Roedd ateb y Gweinidog yn fedrus iawn, nid wyf yn gwybod a ymrwymodd i ddeddfwriaeth ai peidio, ond roeddwn yn hoff o'r cynnwys ar y cyfan—roeddwn yn credu ei fod yn ddefnyddiol ac yn gefnogol iawn. Diolch i chi am y cyfeiriad at Fil Aelod unigol. Efallai y dylai pawb ohonom gyflwyno'r un Bil ac efallai y cawn ein dewis yn y bleidlais. Nid wyf yn poeni'n ormodol pwy sy'n ei hennill.