Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 14 Mawrth 2018.
Ie, do; diolch, Gadeirydd. Cafodd ei dderbyn mewn egwyddor.
Un o'r problemau gyda'r safonau: rwyf eisiau iddynt fod yn rhan allweddol o'r tirlun addysgol llwyddiannus, ond mae'n ddogfen eithaf swmpus, yn 106 o dudalennau o hyd. Nawr, gwn yn union beth fydd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet—maent i fod i gael eu defnyddio'n rhyngweithiol. Nid wyf eto wedi gweld y ddogfen hon yn cael ei defnyddio'n rhyngweithiol, ar-lein. Ni fuaswn yn hoffi meddwl y byddai'n rhaid i athrawon argraffu'r safonau hyn a'u dysgu. Hefyd, rwy'n credu o hyd fod rhywfaint o'r iaith a ddefnyddir yn y safonau braidd yn aneglur, yn enwedig i athro sydd, ar ddiwedd diwrnod gwaith, yn brysur iawn, ychydig yn flinedig, a heb fawr o amser i eistedd a meddwl. Nid wyf eto wedi cael fy argyhoeddi gan yr iaith a ddefnyddiwyd yn y safonau, ac roeddwn yn teimlo, pan roddodd yr Athro Mick Waters dystiolaeth i'r pwyllgor, ei fod wedi mabwysiadu ymagwedd braidd yn orobeithiol at y defnydd o'r safonau. Rhoddodd dystiolaeth dda iawn ac fe'i cyflwynwyd yn dda iawn, ond roeddwn yn teimlo ei fod braidd yn amharod weithiau i wynebu her o ran sut y gallai'r safonau hynny fod yn anodd i athro eu defnyddio pe bai'n ceisio eu defnyddio'n gyflym.
Yn olaf, dywed argymhelliad 23 y dylai
'Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod mwy o gefnogaeth i’r defnydd o’r Pasbort Dysgu Proffesiynol, o ystyried ei botensial, a’r arian sydd eisoes wedi’i wario arno.'
Mewn gwirionedd, rwyf wedi ymweld â Chyngor y Gweithlu Addysg ac wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio'r pasbort dysgu proffesiynol. Mae'n amlwg fod gwerth iddo. Yn ei hymateb, dywedodd fod angen i ddefnyddwyr fod yn hyderus fod y pasbort dysgu proffesiynol yn bodloni anghenion ymarferwyr fel bod niferoedd cynyddol yn argyhoeddedig ynglŷn â gwerth canfyddedig defnyddio'r pasbort dysgu proffesiynol.
Mae gwerth iddo yn bendant, yn enwedig, rwy'n tybio, os caiff ei ddefnyddio ar y cyd â Hwb. Felly, fel adnodd ar-lein, os oes gennych athro yng Nghonwy ac athro yng Nghaerffili yn gwneud yr un math o gynlluniau gwersi, mae'n adnodd ardderchog i rannu'r rheini ac i atal dyblygu, a rhannu arferion da. Yr hyn nad wyf yn argyhoeddedig yn ei gylch yw ei fod wedi cael ei gyflwyno mor eang ac mor gyffredinol â phosibl. Nid wyf yn credu bod addysgwyr wedi'u hargyhoeddi yn ei gylch ar hyn o bryd, ond gallent fod, oherwydd mae'n offeryn da. Rwyf wedi'i weld, a buaswn yn ei groesawu pe bawn yn athro fy hun. Felly, rwy'n credu y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ganmol rhinweddau'r pasbort dysgu proffesiynol ac annog ei ddefnydd.
Felly, ar y cyfan, cafwyd ymateb da iawn gan y Llywodraeth i'r adroddiad, ar wahân i 'mewn egwyddor' i raddau bach. Hoffwn weld rhai pethau eraill yn cael eu derbyn. [Torri ar draws.] Mae Michelle Brown yn hwyr iawn—[Torri ar draws.] A chyda hynny, rwyf am ddirwyn fy sylwadau i ben.