Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 20 Mawrth 2018.
Un o'r rhesymau na allem ni fwrw ymlaen, neu'r prif reswm pam na allem ni fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 yn y gorffennol oedd oherwydd na allem ni dalu amdani o'n cyllideb ffyrdd bresennol. Roedd angen i ni gael pwerau benthyg er mwyn talu am brosiect ffordd o'r maint hwnnw. Felly, telir am hwnnw o bot ar wahân i'r gyllideb ffyrdd, felly nid yw'n cystadlu ag unrhyw brosiect ffyrdd eraill o ran cyllid. Pan ddaw i'r metro, mae hwnnw'n cael ei ariannu mewn ffordd wahanol, gan edrych ar ein cyllidebau ein hunain, gan edrych ar y cyllidebau bargen ddinesig, i fwrw ymlaen â'r prosiect hwnnw. Yr hyn y gallaf ei sicrhau i'r Aelodau yw nad yw'r metro a'r M4 yn cystadlu am yr un cyllid; maen nhw'n dod o ddau wahanol bot.