Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 20 Mawrth 2018.
Felly, ni fu unrhyw ystyriaeth o gwbl ynghylch codi tollau ar ffordd liniaru'r M4. Amlygodd eich cyd-Aelod ar y meinciau cefn yn y fan yna, Mick Antoniw o Bontypridd, dim ond pythefnos yn ôl bod y system fetro yn debyg iawn i anghenfil Loch Ness yn y fan yma nawr i lawer o bobl. Ond y pwynt yr oedd e'n ei wneud oedd bod llwybrau yn cael eu colli oherwydd cost ffordd liniaru'r M4, a hefyd costau cynyddol y system fetro. Os nad yw codi tollau yn cael ei ystyried ar gyfer ffordd liniaru'r M4, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mantoli'r gyllideb ar gyfer y ddau brosiect seilwaith hanfodol hyn yma yn y de-ddwyrain ac, yn wir, prosiectau seilwaith eraill ledled Cymru, oherwydd nid yw'n ymddangos bod y ddau ohonynt, ar y fantolen, yn gwneud synnwyr?