Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 20 Mawrth 2018.
Mae hynny'n rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn gallu ei gyhoeddi maes o law. Rydym ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, ei bod hi'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n darparu cymaint o leoedd hyfforddi ag y gallwn ni a lleoedd mewn meysydd lle y gall pobl gael y profiad mwyaf posibl, gan, wrth gwrs, adeiladu ar yr ymgyrch recriwtio sydd wedi bod mor llwyddiannus o ran dod â meddygon i Gymru.