Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 20 Mawrth 2018.
Mae'n hynod bwysig bod addysg feddygol, pan gaiff ei hehangu, yn gallu cynnig y profiad eang i fyfyrwyr sydd ei angen arnynt i gymhwyso, a chymerwyd y ffactor hwnnw i ystyried erioed. Mae'r mater o ran Bangor, wrth gwrs, wedi ei archwilio'n drylwyr. Rydym ni'n awyddus i wneud yn siŵr bod cymaint o leoedd â phosibl ar gael ledled Cymru, gan sicrhau wrth gwrs bod gan bobl fynediad at gymaint o arbenigeddau ag y gallant i gynyddu eu profiad.