Addysg Uwch

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:31, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, roeddwn i eisiau codi mater streic yr Undeb Prifysgolion a Cholegau. Gwn fod trafodaethau yn mynd rhagddynt ynghylch dilysrwydd y ffigur a roddwyd ar gyfer y diffyg o ran pensiynau o £6.1 biliwn, ac mae Universities UK wedi cytuno i banel arbenigol annibynnol ei adolygu. Fodd bynnag, mae mwy o streiciau yn dal i gael eu cynnig, sy'n golygu tarfu posibl i arholiadau, ond, serch hynny, mae'r myfyrwyr, rhai o'r is-gangellorion, a llawer ohonom ni wleidyddion yn cefnogi'r streicwyr. Felly, hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog: pa gymorth gallai Llywodraeth Cymru ei roi i ddod â'u streic i ben yn foddhaol?