Amseroedd Aros Ysbytai

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:39, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mater i'r byrddau iechyd yw hynny. Yr hyn yr wyf i wedi sylwi arno, fodd bynnag, yw, yn sicr, bod rhai byrddau iechyd yn anfon llythyrau apwyntiad sy'n pwysleisio cost apwyntiad a fethir. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig—bod pobl yn deall hynny. Maen nhw hefyd yn pwysleisio os nad yw pobl yn dod i apwyntiad, y gallen nhw symud yn ôl, ymhellach i lawr y rhestr aros yn y pen draw. Dyna'r ffon. Y foronen yw ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gysylltu â'r adran lle mae ganddyn nhw'r apwyntiad. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, peidio â dibynnu ar linell ffôn yn unig, a allai fod yn brysur neu ar agor am ddim ond ychydig oriau y dydd, ond gallu cael cyfeiriad e-bost y gall pobl gysylltu ag ef, ac yna, wrth gwrs, ymateb yn gyflym. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei weld gyda PABM ac yn rhywbeth sy'n sicr, rwy'n credu, yn arfer da i weddill Cymru.