Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 20 Mawrth 2018.
Ydy, mae gweithio rhanbarthol yn rhan hanfodol a phwysig o'r hyn yr ydym yn ei wneud. Nid y naill neu'r llall mohono, os mynnwch chi. Mae hyn yn ymwneud â chreu'r unedau llywodraethu gyda'r capasiti a'r gallu strategol i rymuso ac i sbarduno gweithio rhanbarthol. Roeddech chi a minnau yn cefnogi uno arfaethedig Torfaen a Blaenau Gwent yn y Cynulliad blaenorol, ac rwy'n credu y gwnaethoch chi a minnau siarad o blaid hynny ar y pryd. Yn sicr, gwnaeth y ddau ohonom ni gyfarfod arweinwyr ein priod gynghorau ar y pryd, ac yn sicr rhoddwyd cymorth iddyn nhw fwrw ymlaen â hynny. Rwy'n credu bod y ddau ohonom yn rhannu'r siom na ddigwyddodd hynny ar y pryd, ac yn sicr mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ceisio ei wneud yn awr.
Wrth ateb y cwestiwn blaenorol gan lefarydd Plaid Cymru, rwy'n gobeithio y bûm yn eglur iawn, iawn mai'r hyn yr wyf yn ceisio ei wneud yma yw ceisio cael cytundeb ar sut i ddatblygu'r materion hyn. Nid yw'n golygu sefydlu proses drwy'r Papur Gwyrdd hwn heddiw ac yna ddewis un o'r posibiliadau hynny. Mae'n ymwneud â sefydlu'r drafodaeth, creu fframwaith ar gyfer y drafodaeth honno, creu cyfle ar gyfer y drafodaeth honno, ac yna, o ran y cynigion y cytunwn ni arnyn nhw, y byddwn yn eu trafod ar ddiwedd y broses hon, byddwn yn datblygu'r rheini yn ddeddfwriaeth. Nawr, ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn y sefyllfa honno. Dydyn ni ddim yn y sefyllfa mewn gwirionedd i roi ichi rai o'r atebion manwl yr ydych chi wedi gofyn amdanynt, oherwydd dydyn ni ddim wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Yr hyn nad wyf i eisiau ei wneud—a dyma'r hyn nad wyf i eisiau ei wneud o gwbl y prynhawn yma—yw terfynu sgwrs gyda chasgliadau'r sgwrs honno. Yr hyn yr wyf eisiau ei wneud heddiw yw dechrau'r sgwrs honno a chael trafodaeth nid yn unig ynglŷn â'r dewisiadau yr wyf yn eu cynnig yn y fan yma—yr hyn yr wyf yn ei gynnig yma yn y Papur Gwyrdd hwn—ond os daw cynllun gan Torfaen, Blaenau Gwent neu rywle arall, yna gadewch i mi ddweud: rwy'n hapus iawn, iawn i ystyried hynny. Nid yw'r ystyriaeth y byddwn yn ei rhoi i'r materion hyn yn gyfyngedig i'r tri chynnig yn y Papur Gwyrdd. Nid yw'n gyfyngedig i un cynnig neu i nifer o gynigion. Cyfle yw hwn i bobl gyflwyno'r cynigion hynny, cyflwyno'r syniadau hynny, a bod yn greadigol yn union fel mae'r Aelod dros Torfaen yn awgrymu y bu llywodraeth leol yn greadigol yn y ffordd yr aeth i'r afael â'r bargeinion dinesig a gweithio rhanbarthol mewn ffyrdd eraill. Mae hwn yn gyfle i gael y drafodaeth honno—y drafodaeth ehangach honno, y drafodaeth gadarnhaol honno, y drafodaeth greadigol honno, y drafodaeth gyfoethog honno, a'r hyn nad wyf i eisiau ei wneud heddiw yw gorffen y drafodaeth honno, terfynu'r drafodaeth honno neu gyfyngu ar y drafodaeth honno.