Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 20 Mawrth 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, ni fydd yn syndod ichi fy mod yn dal i wrthwynebu cyfuno Sir Benfro a'i gorfodi i fod yn rhan o fodel Dyfed unwaith eto, oherwydd rwyf yn dal o'r farn y bydd hynny'n arwain at ganoli pellach ar draul Sir Benfro. Nawr, rwy'n sylweddoli mai bwriad y Papur Gwyrdd heddiw yw ystyried sut y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati, sy'n cynnwys rhaglen uno gynhwysfawr sengl, ac rwy'n tybio o'r dewis hwnnw mai'r canlyniad fyddai Llywodraeth Cymru yn gorfodi uno os mabwysiedir y dewis hwnnw.
Mae'n eithaf clir nad oes gan y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli unrhyw awydd i uno Sir Benfro yn ôl i fodel Dyfed, yn enwedig o gofio bod Cyngor Sir Penfro, o bob plaid, gan gynnwys eich cyd-Aelodau Llafur ar y Cyngor, wedi pleidleisio ychydig dros ddwy flynedd yn ôl o blaid hysbysiad o gynnig, gan ddweud bod ailgyflwyno hen fodel Dyfed yn annerbyniol. Yn yr amgylchiadau hyn, a allwch chi yn y fan yma, heddiw, felly, sicrhau fy etholwyr na fyddwch yn bwrw ymlaen ag uno gorfodol, oni fydd y cynigion yn seiliedig ar farn y bobl yr wyf yn eu cynrychioli?