Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 20 Mawrth 2018.
Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu datganoli mwy o bwerau i awdurdodau lleol yng Nghymru? Mae'n ymbellhau o'r llwybr y buom yn ei dilyn yn ystod y 45 mlynedd diwethaf. Efallai y bydd rhai pobl yma yn cofio adeg pan oedd yr awdurdodau lleol yn rheoli'r heddlu, yn rheoli dŵr, yn rheoli addysg uwch, yn rheoli addysg bellach, bob un ohonynt wedi'u cymryd oddi ar lywodraeth leol yn ystod y 45 mlynedd diwethaf. Yn aml iawn, mae ad-drefnu llywodraeth leol yn ymddangos yn amser da i hawlio pwerau oddi ar awdurdodau lleol. Felly, rwy'n croesawu hynny'n fawr.
Wrth gwrs, mae'n hen bryd ad-drefnu llywodraeth leol. Rydym ni'n gwneud hynny bob 22 mlynedd, a dylem fod wedi gwneud hynny y llynedd, oni ddylem, yn hytrach na'r flwyddyn hon, ond dyna'r sefyllfa. A phob tro yr ydym wedi ad-drefnu llywodraeth leol, rydyn ni wedi gwneud hynny'n gywir. Dyma'r ffordd orau bosib o redeg llywodraeth leol. Gwnaed hynny ym 1973, pan oeddwn i yn yr ysgol, pan oedd y siroedd a'r rhanbarthau oddi mewn iddynt yn berffaith, ac fe gawson ni, 'Na, mae angen ichi gael awdurdodau unedol.' Nawr gwyddom fod angen inni gael awdurdodau mawr iawn.
Pam mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod cyrff mwy o faint mewn llywodraeth leol yn fwy effeithlon ac effeithiol na chyrff llai o faint? A gaf i ofyn: a yw'n ymwybodol o'r problemau y mae gwasanaethau cymdeithasol Birmingham, er enghraifft, wedi eu cael, sef yr awdurdod lleol mwyaf ym Mhrydain, o bosib y mwyaf yn Ewrop? Pa boblogaeth a maint daearyddol sydd orau, yn ei farn ef? Rwy'n gofyn hynny oherwydd mae'n iawn i Bowys, mae'n debyg, sydd â phoblogaeth o oddeutu 132,000, fod yn uned yn ei hawl ei hun, ond nid yw'n iawn i Sir Benfro, fel y soniodd Paul Davies, sydd â phoblogaeth o 128,000. Nid yw'n iawn i Sir Gaerfyrddin, sydd â 180,000. Rwy'n ceisio deall y rhesymeg pam, mewn rhai ardaloedd, mae angen awdurdodau mawr iawn arnom ni. Pam mae'n rhaid uno Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, sydd ill dau yn fwy na Phowys? Does gen i ddim problem gyda nhw yn uno. Nid wyf yn siŵr a gawn ni awdurdod fawr gwell, a bydd costau'n gysylltiedig â hynny. Ac i ateb y cwestiwn a ofynnwyd yn gynharach—[Anghlywadwy.]—tua 5 y cant o'r gwariant net cyfredol fydd y gost o ad-drefnu. Dyna a ddigwyddodd y tro diwethaf, ac nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na ddylai fod yr un peth y tro hwn.
Rydym ni wedi creu llawer yng Nghymru dros y blynyddoedd—llawer o gyrff mawr o fewn y sector cyhoeddus. Dyna'r llwybr a ddilynwyd dan Lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan, dan Lafur, dan Lafur a Phlaid Cymru, dan Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y fan hon. Rydym ni wedi cael llai a llai o sefydliadau, sy'n tueddu i fod yn fwy ac yn fwy o faint. Dim ond cwestiwn—efallai na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno ateb hwn—ond a yw'n credu bod y sefydliadau mwy o faint yng Nghymru, y rhai mawr iawn—a gallwch chi feddwl am rai nawr—a'r cyrff Cymru gyfan, yn perfformio cystal fel bod angen inni gael ychwaneg o gyrff mwy?