Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 20 Mawrth 2018.
Diolch. Wel, rydym ni wedi clywed llawer am eich byrdwn cyffredinol, gan gynnwys eich bod yn cydnabod bod angen i ni ddatganoli pwerau o fewn Cymru, sef yr union beth y mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn galw amdano yn ei gynnig twf. A gaf i awgrymu mai model arall posibl fyddai'r dull rhanbarthol cydweithredol a ddatblygir yn y gogledd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gan weithio gyda'i gilydd mewn strategaeth, wrth flaenoriaethu ac, yn gynyddol yn y dyfodol, wrth gyflenwi, lle gwyddom o'r dystiolaeth o achosion o uno yn yr holl sectorau nad yw mawr bob amser yn well, yn fwy cost-effeithiol nac yn fwy effeithlon?