Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 20 Mawrth 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd.
Mae'r rheoliadau hyn yn amlwg yn rhan bwysig iawn o'r system safonau iaith Gymraeg a gyflwynwyd gan Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011. Cytunodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ei bod yn bwysig craffu ar y rheoliadau yma mor ofalus â phosib, gyda chyfle i randdeiliaid gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ac i'r pwyllgor glywed tystiolaeth lafar.
Yn yr amser cyfyngedig iawn oedd ar gael, roedd y pwyllgor yn gallu gwahodd a derbyn ystod o dystiolaeth ysgrifenedig, a hefyd cwestiynu peth o'r dystiolaeth honno mewn cyfarfod cyhoeddus o'r pwyllgor. Hoffwn gofnodi diolchiadau'r pwyllgor i bawb a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad a darparu tystiolaeth lafar, a hynny ar fyr rybudd. Cafodd y pwyllgor sesiwn friffio technegol preifat gan swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth, a hoffwn hefyd gofnodi diolchiadau'r pwyllgor i'r swyddogion hynny. Mae'r holl dystiolaeth a gawsom wedi'i hatodi i'n hadroddiad neu wedi'i chyhoeddi yn nhrawsgrifiad ein cyfarfod ar 14 Mawrth.
Casgliadau'r pwyllgor, ac amser ar gael i graffu: wel, dim ond 21 diwrnod gafodd eu caniatáu y tro hwn o'r rheoliadau yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad tan y ddadl hon. Er bod hyn wedi caniatáu i ni gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig sylfaenol iawn, a threfnu rhywfaint o dystiolaeth lafar, prin yw hynny'n ddigonol er mwyn craffu ar reoliadau mor arwyddocaol â'r rhain. Er enghraifft, dim ond pum diwrnod gwaith oedd ar gael i dderbyn ymatebion ysgrifenedig, a dim ond 10 diwrnod gwaith rhwng gosod y rheoliadau a'r dyddiad olaf i'r pwyllgor eu hystyried nhw. Oherwydd gofynion y Rheolau Sefydlog a briffio'r pwyllgor, roedd yr amser a oedd wirioneddol ar gael rhywfaint yn llai na hyn.
Nid yw'n ymddangos bod unrhyw reswm penodol pam na ellid fod wedi cynnal y ddadl hon yn nes ymlaen er mwyn caniatáu amser ar gyfer craffu mwy cynhwysfawr. Er y gallai hyn fod wedi achosi ychydig o oedi o ran y gwaith paratoi ar weithredu'r rheoliadau, byddai wedi caniatáu i'n pwyllgor ni ystyried y mater yma'n fanylach. Felly, byddai'r pwyllgor yn falch pe byddai'r Llywodraeth yn caniatáu mwy o amser i graffu ar reoliadau safonau'r Gymraeg yn y dyfodol.
Gellid cyflawni hyn yn haws trwy ei wneud yn glir yn y memorandwm esboniadol na fydd yn ceisio cymeradwyaeth o ran rheoliadau tan fod cyfnod hwy na'r isafswm o 20 diwrnod wedi mynd heibio. Byddai 40 diwrnod yn caniatáu craffu rhesymol gan y pwyllgor—gan gynnwys pwyllgorau eraill sydd â diddordeb—ac ni fyddai hynny'n achosi oedi gormodol o ran eu gweithredu.
Cytunodd y pwyllgor ei fod wedi cymryd yn rhy hir i ddod â'r rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad—rhyw dair blynedd o'r dechrau i'r diwedd. Cytunom fod angen dybryd bellach i roi safonau Cymraeg cadarn ar waith ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Ac ni chlywsom unrhyw dystiolaeth oedd yn nodi nad oes angen safonau er mwyn symud darpariaeth y Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd yn ei blaen.
Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor bryderon sylweddol am agweddau o'r rheoliadau. Mewn sawl ffordd, y gwasanaeth iechyd yw'r gwasanaeth cyhoeddus pwysicaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio. Efallai mai'r pryder mwyaf a glywsom oedd diffyg unrhyw hawl i dderbyn gwasanaethau gofal iechyd clinigol wyneb yn wyneb yn Gymraeg. Wrth gwrs, am resymau ymarferol, ni all hawl i dderbyn y gwasanaethau hyn fod yn absoliwt. Ond mae pwysigrwydd iaith mewn diagnosis a gofal yn glir iawn. Hefyd, dylai'r hawl i dderbyn gwasanaeth yn eich dewis iaith fod yn egwyddor sefydledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, hyd yn oed os ceir achlysuron pan fydd amgylchiadau ymarferol yn cwtogi ar yr hyn y gellir ei ddarparu. Nid yw'r syniad na ddylai'r egwyddor sylfaenol hon hefyd fod yn gymwys i'r gwasanaeth iechyd, yn ein barn ni, yn dderbyniol. Felly, rydym am i'r Llywodraeth ystyried cyflwyno rheoliadau ychwanegol cyn gynted ag y bo'n ymarferol posib i sefydlu hawliau cliriach i dderbyn gwasanaethau gofal iechyd wyneb yn wyneb yn y Gymraeg.
Gwasanaethau gofal sylfaenol yw'r rhai sy'n cael eu defnyddio amlaf gan y cyhoedd, a'r prif faes pryder arall am y rheoliadau yw nad yw'r mwyafrif ohonynt yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol. Unwaith eto, mae'r pwyllgor yn cydnabod y problemau ymarferol, ond mae absenoldeb unrhyw safonau o gwbl ar gyfer darparwyr gofal sylfaenol annibynnol yn wendid clir yn ein tyb ni. Nid ydym yn argyhoeddedig ei fod yn afresymol gosod dyletswyddau ar fyrddau iechyd lleol i sicrhau bod darparwyr gofal sylfaenol annibynnol yn cydymffurfio â safonau. [Torri ar draws.] Rwy'n credu taw datganiad yw hwn.