5. Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:52, 20 Mawrth 2018

Diolch, Dirprwy Lywydd. Jest i ategu bod y Pwyllgor Cyllid wedi ystyried y rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad heddiw, a hefyd y rheoliadau a wnaethpwyd drwy’r weithdrefn negyddol, sydd yn rhan o’r pecyn, fel y dywedodd arweinydd y tŷ. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn fodlon ar y grymoedd hyn yn cael eu rhoi i Awdurdod Cyllid Cymru, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig tynnu sylw’r Cynulliad cyfan at y ffaith bod y grymoedd yma yn rhai sylweddol iawn. Maen nhw’n rhai pwerus iawn, ac maen nhw yn caniatáu i’r awdurdod cyllid fynd i mewn i eiddo ac i archwilio ymddygiad pobl. Wrth gwrs, mae gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi rymoedd tebyg, ac mae ond yn deg, wrth ddatganoli trethi, ein bod ni hefyd yn datganoli grymoedd yn ymwneud ag unrhyw ymgais i dwyllo cyllid y wlad—y wlad yn y cyd-destun yma, wrth gwrs, yw Cymru. Felly, er ein bod ni’n cytuno ar y rheoliadau, rydym ni hefyd jest yn tynnu sylw’r Cynulliad yn ein hadroddiad ni at y pwerau eang ond pwrpasol hyn.