Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru

Part of QNR – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Rydym ni’n disgwyl i’r byrddau iechyd ddarparu gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn darparu MRI amlbarametrig yn unol â’r canllaw presennol ar ganser y prostad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae’r canllaw’n cael ei adolygu ac rydym ni’n disgwyl i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau yn gynnar yn 2019.