Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch, Prif Weinidog. Mae penderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan i gau ward dementia St Pierre yn Ysbyty Cymuned Cas-Gwent wedi cael ei feirniadu'n hallt gan bobl â dementia a'u teuluoedd yn fy etholaeth i. Mae'n ymddangos nawr y gallai'r penderfyniad wynebu her gyfreithiol gan Gyngor Sir Fynwy gan ei bod hi'n ymddangos bod dadl gref dros adolygiad barnwrol, a bydd cam o'r fath yn amlwg yn niweidiol â dweud y lleiaf i'r berthynas rhwng yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd. Pa drafodaethau mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda'r bwrdd iechyd lleol am ei benderfyniad, ac a wnewch chi bwyso ar y bwrdd i ystyried gwrthdroi'r penderfyniad hwn, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon?