Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 24 Ebrill 2018.
Jest yn parhau â'r thema yma, buaswn i eisiau gwybod a fyddai modd rhoi ffafriaeth bosibl i gwmnïau tai eco. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth sydd angen edrych arno o ran cynaliadwyedd y farchnad ac o edrych i wneud ein tai yn fwy cynaliadwy. A oes modd i chi edrych i mewn i hyn fel Llywodraeth er mwyn sicrhau y byddai cynlluniau o'r fath yn cael rhyw fath o flaenoriaeth?