Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 24 Ebrill 2018.
Fy mhryder i yw bod y diwydiant adeiladu tai yn cael ei reoli gan nifer fach iawn o gwmnïau mawr iawn, sy'n creu cartél i bob pwrpas, yn cadw prisiau yn artiffisial o uchel, ac yn atal adeiladu'r llu o gartrefi fforddiadwy sydd eu hangen, gan nad yw o fudd iddynt fodloni galw yn yr hirdymor oherwydd y bydd hynny'n achosi prisiau i ostwng. Yr ateb, rwy'n credu, yw marchnad dai estynedig, lle gall busnesau bach lleol sy'n sensitif i anghenion eu cymunedau ffynnu a thyfu, ac rwy'n bwriadu cynnal grŵp trawsbleidiol yn ddiweddarach eleni i ystyried sut y gallwn ni wneud mwy o hynny. Ond hoffwn wybod beth mwy all Llywodraeth Cymru ei wneud i ddatblygu'r uchelgais hwnnw ac i dyfu'r sail adeiladu tai busnes bach hwnnw.