Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 24 Ebrill 2018.
Prif Weinidog, yn ôl y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, gallai Llywodraeth Cymru gefnogi adeiladwyr tai bach a chanolig eu maint trwy orfodi awdurdodau lleol i gyflymu'r cynnydd o ran darparu eu cynlluniau datblygu a'u cyflenwadau tir pum mlynedd. Datgelodd y gyd-astudiaeth o dir sydd ar gael ar gyfer tai mai dim ond chwech awdurdod lleol oedd â chyflenwad pum mlynedd o dir tai a oedd yn barod i'w ddatblygu er gwaethaf y ffaith fod hyn yn ofyniad polisi cynllunio allweddol gan Lywodraeth Cymru. Prif Weinidog, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau cynllunio lleol yn bodloni gofyniad eich Llywodraeth ac yn cynyddu'r safleoedd tai y gellir eu darparu sydd ar gael yng Nghymru, os gwelwch yn dda?