Perchnogaeth Gyhoeddus o Eiddo Manwerthu a Masnachol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 1:53, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Ar yr un pwnc hwn, sy'n amlwg o ddiddordeb mawr i mi, a allwch chi esbonio pam y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd â'r bartneriaeth darparu'r metro arfaethedig hon, o gofio bod nifer fawr o gwmnïau masnachol wedi elwa ar adleoli i'r Sgwâr Canolog a byddwn i wedi disgwyl iddyn nhw wneud yr enillion cynllunio angenrheidiol i adeiladu'r orsaf fysiau yn rhan hanfodol o wneud hyn yn llwyddiant?