Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 24 Ebrill 2018.
Ie, dyna ydy'r pwynt sylfaenol yn deillio o'n hadroddiad ni fel pwyllgor iechyd. Yn bellach i'r esiamplau rŷm ni wedi'u clywed, sydd hefyd, wrth gwrs, yn mynd i fod yn fregus o ran ariannu tymor hir, ydych chi'n credu y dylech chi, fel Llywodraeth, fod yn rhoi mwy o eglurder a mwy o flaenoriaeth i'r pwynt sylfaenol yma—nid yn unig clodfori'r gwasanaeth ond hefyd dweud rhywbeth ynglŷn â'r sicrwydd tymor hir ariannol?