Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 24 Ebrill 2018.
Yn dilyn y cytundeb cyllideb, mi sicrhaodd Plaid Cymru £400,000 er mwyn uwchraddio rhwydwaith TrawsCymru o fws i goets, ac yn dilyn hynny mi ddechreuodd y gwasanaeth newydd o Aberystwyth i Gaerdydd wythnos diwethaf, gan sicrhau siwrnai mwy pleserus a chyflymach. Mae hyn, wrth gwrs, yn gam pwysig ymlaen yn y broses o greu gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus sy'n ffit ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn ein cymunedau gwledig ni. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i edrych i mewn i ehangu'r gwasanaeth yma, a chynnig gwasanaethau coets a fydd ar gael i bobl yn fy etholaeth i a fyddai'n dymuno teithio ar fws cyfforddus i'r brifddinas ac i rannau eraill o Gymru?