Gwasanaeth Bysiau TrawsCymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Mae gwerthusiad yn cael ei gynnal. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod, fodd bynnag, yw bod nifer y teithwyr yn cynyddu. Mae cyflwyno teithio am ddim wedi bod yn eithriadol o bwysig o ran gwneud hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud bod yr Aelod yn rhoi'r argraff, yn y ffordd y gofynnodd y cwestiwn, nad yw o blaid rhwydwaith TrawsCymru. Bydd unrhyw rwydwaith pan fo'n cychwyn gyntaf yn cymryd rhywfaint o amser i ymsefydlu. Nid ydym ni erioed wedi cael rhwydwaith bysiau cenedlaethol go iawn. Hyd yn oed yn nyddiau'r TrawsCambria, roedd Caerdydd i Aberystwyth ac yna ymlaen i Fangor yn bodoli, ar ôl i'r rheini a oedd yn mynd yn eu blaenau i Fangor aros am awr yn Aberystwyth, ond roedd popeth arall yn weddol fyrdymor ac anghynaladwy. Rydym ni'n bwriadu cyflwyno rhwydwaith cynaliadwy hirdymor. Rydym ni'n gwybod bod cymunedau erbyn hyn sy'n cael gwasanaeth bws am y tro cyntaf ers dros 40 mlynedd, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn siŵr y byddant yn ei groesawu. Felly, rwy'n hapus â'r ffordd y mae rhwydwaith TrawsCymru yn perfformio ac, wrth gwrs, nifer y teithwyr o ran y cynnydd yr ydym ni wedi ei weld.