Dinasoedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Ein meddylfryd yw bod angen i awdurdodau lleol gydweithredu mwy i lunio cynlluniau datblygu rhanbarthol. Os na fydd hynny'n digwydd, yna bydd yn rhaid i ni ystyried pa gamau i'w cymryd nesaf, ond byddem yn annog awdurdodau lleol i wneud hynny. Y gwir yw, wrth gwrs, bod ffiniau gwleidyddol yn gwbl aneffeithiol pan ddaw i'r ffordd y mae'r economi yn gweithio. Y gwir yw bod economïau llawer o awdurdodau lleol yn cydblethu'n anorfod â Chaerdydd. Rwyf i'n byw 20 milltir i ffwrdd o Gaerdydd, ond gwn fod llawer iawn, iawn o bobl yn cymudo i Gaerdydd bob dydd i weithio, ac mae'n gweithredu—. Er bod gan Ben-y-bont ar Ogwr ei heconomi ei hun a'i chyflogwyr ei hun, mae Caerdydd yn dal i fod yn ffynhonnell bwysig o waith. Rwyf i'n credu ein bod ni'n gwneud cam â'n cyhoedd os bydd awdurdodau lleol yn ystyried cynllunio a'r ffaith fod tai ar gael fel rhywbeth sy'n bodoli o fewn ffiniau eu hunain yn unig. Felly, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd. Os na fyddant yn gwneud hynny, yna yn amlwg bydd yn rhaid i ni gymryd camau i wneud y system gynllunio yn fwy effeithiol.