Grŵp 5: Pwerau gwneud rheoliadau (Gwelliannau 14, 15, 16, 17, 18)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:38, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig felly. Gwelliannau i egluro bod y pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil hwn er mwyn gwneud gwelliannau canlyniadol yn unig yw gwelliannau 14, 15, 16 a 17, yn grŵp 5. Mae gwelliant 18 yn welliant pellach i sicrhau y bydd y pwerau gwneud rheoliadau yn dod i ben pan fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cadarnhau bod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi'u hailddosbarthu.

Mae nodyn esboniadol y Bil yn datgan bod adran 18 yn dweud y caiff Gweinidogion Cymru wneud gwelliannau canlyniadol er mwyn i unrhyw ddarpariaethau a nodir yn y Bil gael effaith lawn. Mae adran 18(1) o'r Bil yn cynnwys pŵer Harri'r VIII, pryd y defnyddir rheoliadau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol, ac yn dweud y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth o'r fath, diwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad y maen nhw'n ei ystyried fel bod yn briodol o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Bil, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Bil. Mae adran 18(4) yn dweud, lle gwneir rheoliadau o dan adran 18(1), sy'n diwygio neu'n diddymu Deddf neu Fesur y Cynulliad neu Ddeddf Senedd y DU—hynny yw, wrth arfer pŵer Harri'r VIII—byddai'r pŵer o dan adran 18(1) yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Dywed adran 18(5), os gwneir unrhyw reoliadau eraill o dan adran 18(1) y byddant yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol.

Yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fe wnaethom ni ofyn pam nad yw'r weithdrefn gadarnhaol yn berthnasol i'r holl reoliadau a wneir o dan adran 18, ni waeth pa un a ydynt yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ai peidio, a dywedodd y Gweinidog wrthym fod yr adran hon yn darparu'r pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol yn unig, a bod y dull a ddefnyddir yn unol â chanllawiau'r Cwnsler Cyffredinol. Mae hon yn ddadl arall rhwng y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa. Er fy mod i'n parchu'r Cwnsler Cyffredinol a deiliaid blaenorol yr adroddiad hwnnw, ac yn parchu, yn wir, i ryw raddau eu canllawiau, dylai'n huchelgais ni fod yr hyn yr ydym ni'n ei ddymuno a beth mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi'i nodi fel arfer orau. Yn wir, yn y sector mynegwyd rhywfaint o bryder ynghylch dull y Llywodraeth o weithredu. Cyfeiriaf eto at Gyllid y DU, a oedd yn pryderu bod y pŵer arfaethedig yn adran 18 yn rhy eang. Efallai eu bod wedi newid eu meddwl oherwydd anogaeth Llywodraeth Cymru, ond dyna'r hyn a ddywedwyd ganddynt yn wreiddiol, ac fe wnaethant y pwynt, fel y gwnes i yn gynharach, nad dim ond sut byddai pobl â gwybodaeth eang am y sector yn ei ddehongli, ond y cylch ehangach o gyllidwyr a allai weld hyn fel pŵer sy'n rhy eang ac yn rhy ymyrgar, ac o bosibl nid mor drwyadl, felly, â dull o weithredu mwy cyfyng.

Mewn ymateb i'r gwelliant hwn yng Nghyfnod 2, dadleuodd y Gweinidog yn gyntaf y byddai'n ddefnyddiol i ddiwygio pennawd adran 18 i ddangos yn fwy eglur cwmpas mwy cyfyng y pŵer. Fodd bynnag, mewn gwirionedd nid yw hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl, gan fod penawdau mewn deddfwriaeth ar gyfer arweiniad yn unig. Yr hyn sydd ei angen yma yw gwelliant sydd yn llawer mwy cyfyng, ac sy'n ymdrin â phryderon ynglŷn â pha mor eang yw'r pwerau cyfredol. Mae'r gwelliant a gynigiais yn cyfyngu ar gwmpas y pŵer gan ddefnyddio geiriad Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018. Mae'n rhaid imi ddweud, nad wyf yn gefnogwr mawr o'r Ddeddf honno, ond o ran y ffordd y mae hi wedi ymdrin â phwerau rheoleiddio, mae'n fodel gwell na'r un y mae'r Gweinidog yn ei gynnig. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu ei bod hi'n fater o bryder bod unrhyw bwerau Harri'r VIII yn y Bil o ystyried natur anarferol y Bil hwn, a'i fod hefyd yn ymateb i fater penodol iawn o ran ailddosbarthu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Felly, mae gwelliant 18 yn y grŵp hwn yn benodol yn lleddfu'r pryderon hyn fod y pwerau hyn yn rhy ben-agored drwy eu cyfyngu neu eu diddymu ar ôl i ailasesiad gael ei gadarnhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Credaf felly, ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych ar bwerau gwneud rheoliadau—does dim llawer ohonynt yn y Bil hwn, mae'n rhaid dweud—a sicrhau bod y system orau ar gael inni. Ni ddylem ganiatáu, drwy'r llwybr penodol hwn, mwy o gwmpas nag sy'n gwbl angenrheidiol, oherwydd nid yw'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gredu sy'n ganlyniadol ac yn angenrheidiol bob amser yn cyfateb i'r hyn yr ydym ni'n ei gredu sy'n ganlyniadol ac angenrheidiol, ac felly mae'n rhaid i bwerau mwy cyfyng, o ystyried gallu'r weithrediaeth i ddeall ei fusnes, gael eu cyfiawnhau yn y fan yma pan yr ydym ni'n ymdrin â gwir egwyddor sylfaenol y ddeddfwriaeth hon. Rwy'n cynnig felly.