Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch. Cyfeiriodd David Melding at rai o'r pryderon cynnar a godwyd yng nghyswllt pŵer gwneud gwelliannau, ac roedd yn ymddangos bod y pryder a godwyd gan y rhanddeiliaid yn y cyfnod cynnar yn deillio o gamddealltwriaeth ynglŷn ag union gwmpas pŵer adran 18 y Bil a'r pryder y gallai'r cyllidwyr, nad ydynt efallai'n gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth, weld gallu penagored Gweinidogion i newid swyddogaethau'r rheoleiddiwr yn peri risg o ansicrwydd dros gyfnod amhenodol. Nodwyd hyn yn y dystiolaeth ysgrifenedig honno gan Gyllid y DU.
Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau nad yw adran 18 yn rhoi gallu penagored i Weinidogion Cymru newid swyddogaethau'r rheoleiddiwr. Pŵer cyfyng yw adran 18 sydd wedi ei gyfyngu i wneud newidiadau i ddeddfwriaethau eraill, newidiadau sydd eu hangen i wneud y ddeddfwriaeth hon weithredu'n iawn, yn sgil y newidiadau penodol a wneir ar wyneb y Bil. Felly, byddai unrhyw newidiadau a wneir gan ddefnyddio'r pŵer yn adran 18 yn gorfod bod yn gysylltiedig â'r newidiadau a wneir gan y Bil. Felly, gellir gweld enghraifft o'r math o ddiwygio canlyniadol yr ydym yn ei drafod yn y rheolau cofrestru tir. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cynnwys ffurflen cyfyngiad sy'n cyfeirio at y caniatâd i gael gwared ar dir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac rydym ni'n cael gwared ar hon. Bydd angen diweddaru'r ffurflen hon i adlewyrchu'r ffaith na fydd hi'n ofynnol bellach i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael caniatâd. Dyma'r math o ddiwygiadau canlyniadol y mae angen eu gwneud i sicrhau bod darpariaethau sylweddol y Bil yn gweithredu'n effeithiol.
Cynhaliwyd trafodaethau gyda Chyllid y DU yn dilyn eu tystiolaeth ysgrifenedig gychwynnol i drafod gwir gwmpas y pŵer y cyfeiriais ato yn gynharach. Yn dilyn y trafodaethau hynny, cadarnhaodd Cyllid y DU wrth fy swyddogion eu bod yn fodlon â chwmpas y pŵer. Bydd yr Aelodau hefyd yn gweld fod teitl adran 18 wedi ei newid i wneud y cwmpas cyfyng hwnnw yn fwy eglur yn y Bil.
Ceir rhai anawsterau ymarferol yn sgil y diwygiadau arfaethedig. Effaith gwelliannau 14 i 17 yw na ellid gwneud unrhyw welliannau i ddeddfwriaethau eraill ar unrhyw adeg. Byddai hyn yn golygu, pe gwelwyd bod angen diwygio deddfwriaeth arall i wneud iddi weithredu'n iawn, na fyddai'n hawdd iawn cyflawni hyn, ac o ganlyniad byddai'n llesteirio'r Bil hwn rhag cael ei weithredu'n effeithiol.
Gan droi at welliant 18, effaith hwn yw y bydd pŵer y diwygiad canlyniadol yn adran 18 y Bil yn dod i ben cyn gynted ag y bydd Gweinidogion Cymru yn cael cadarnhad bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi'u hailddosbarthu. Ond, rwy'n pwysleisio eto nad pŵer i wneud diwygiadau er mwyn ailddosbarthu yw hwn. Mae'n rhaid iddi fod yn bosibl i'r pŵer cyfyng a roddwyd gan adran 18 gael ei ddefnyddio y tu hwnt i'r penderfyniad ailddosbarthu, a ddisgwylir yn fuan ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, oherwydd erbyn yr adeg honno, efallai na chafwyd digon o amser i wneud y rheoliadau. Mae'n bosibl hefyd y bydd angen diwygio Deddfau eraill a wnaed neu a gafodd eu rhoi ar waith ar ôl y dyddiad ailddosbarthu. Mae Cyllid y DU hefyd wedi cadarnhau wrth fy swyddogion eu bod yn fodlon nad oes unrhyw ddarpariaeth i'r pŵer ddod i ben yn awtomatig yn y Bil hwn. Am y rhesymau hyn, argymhellaf na chefnogir y gwelliannau hyn.