Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 24 Ebrill 2018.
Mae ein dogfen polisi cynllunio cenedlaethol, 'Polisi Cynllunio Cymru', wedi'i hailysgrifennu a'i hailstrwythuro o gwmpas egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddogfen ddiwygiedig yn cynnwys adran benodol ar ansawdd aer a seinwedd erbyn hyn, ac mae'r ymgynghoriad hwn ar 'Polisi Cynllunio Cymru' yn dod i ben ar 18 Mai.
Byddaf yn sefydlu rhaglen aer glân Cymru i ystyried tystiolaeth a datblygu a gweithredu camau sy'n ofynnol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru a'r sectorau er mwyn sicrhau aer glân i Gymru. Ei nod gyntaf fydd cydymffurfio â rhwymedigaethau ansawdd aer deddfwriaethol presennol, ond ei ddiben ehangach yw lleihau baich ansawdd aer gwael ar iechyd dynol a'r amgylchedd. Gellir gwneud hyn drwy fesurau cynllunio, seilwaith, rheoleiddio a chyfathrebu. Os bydd y rhaglen yn nodi bylchau yn yr ysgogiadau angenrheidiol er mwyn gwneud y gwelliannau gofynnol i ansawdd aer, byddaf yn ceisio datblygu deddfwriaeth newydd i fynd i'r afael â hyn.
Un o elfennau craidd y rhaglen hon fydd cynllun aer glân Cymru, y byddaf yn ei gyhoeddi er mwyn ymgynghori arno erbyn diwedd y flwyddyn hon. Bydd yn nodi sut y byddwn yn cyflawni gwelliannau yn ansawdd yr aer ac yn cefnogi ein nodau llesiant. Bydd yn nodi camau trawslywodraethol a sectoraidd sydd eu hangen i sicrhau aer glân yng Nghymru, ac amlygu mesurau cyfathrebu, ymgysylltu ac addysg i annog newid ymddygiad. Bydd hefyd yn cynnwys camau gweithredu i gryfhau rheoleiddio allyriadau o wahanol sectorau diwydiannol. Mae ardaloedd fel Port Talbot yn cyflwyno heriau penodol o ran y cyfraniad at ansawdd aer gwael gan lygredd diwydiannol. Rwyf wedi gofyn am ddiweddariad o'n cynllun gweithredu tymor byr ar gyfer Port Talbot i sicrhau ein bod yn cynnal y modd mwyaf effeithiol o leihau llygredd yn y rhanbarth.
Agwedd bwysig arall ar y rhaglen yw datblygu a sefydlu canolfan monitro ac asesu ansawdd aer ar gyfer Cymru yn 2019. Dywedais wrth y Cynulliad yn flaenorol bod y ganolfan hon yn cael ei sefydlu i sicrhau bod penderfyniadau ar fynd i'r afael â llygredd yr aer yn seiliedig ar dystiolaeth, a chaiff camau gweithredu cysylltiedig eu blaenoriaethu i sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o ran iechyd a lles y cyhoedd.
Bydd ymgynghoriad ein fframwaith parth aer glân drafft ar gyfer Cymru yn cael ei lansio yfory. Y diffiniad o barth aer glân yw ardal ddaearyddol lle y gellir cymhwyso ystod o gamau gweithredu gyda'r nod o leihau yn sylweddol amlygiad y cyhoedd a'r amgylchedd i lygryddion yn yr aer. Mae'r fframwaith yn nodi ein hegwyddorion ar gyfer gweithredu parthau aer glân yng Nghymru yn gyson, sut y dylid eu sefydlu a beth y dylent ei gyflawni i wella iechyd ein cymunedau. Nid oes gennym unrhyw barthau aer glân yng Nghymru ar hyn o bryd, ond gallai awdurdodau lleol eu cyflwyno i fynd i'r afael â gormodiant anghyfreithlon o allyriadau niweidiol. Pan fo tystiolaeth yn awgrymu y gallent sicrhau manteision iechyd sylweddol drwy sicrhau gostyngiadau effeithiol mewn llygredd yn yr aer, byddwn yn croesawu'r defnydd ohonynt.
Elfen allweddol o'r parthau aer glân fydd dull o reoli mynediad gan draffig i hybu gostyngiadau mewn lefelau traffig yn gyffredinol a chyfyngu ar y niwed a achosir i iechyd a'r amgylchedd gan y cerbydau sy'n weddill. Ni fydd hyn yn boblogaidd, ond mae'n rhaid inni greu newid mewn ymddygiad drwy annog dulliau teithio llai niweidiol. Mae'r model arfaethedig ar gyfer Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gerbydau penodol sy'n defnyddio'r ffyrdd fodloni safonau allyriadau diweddaraf Ewrop er mwyn gallu teithio o fewn ffiniau parth aer glân. Gellid cyflwyno hyn drwy gyflwyno cyfyngiadau mynediad ar gyfer y cerbydau sy'n llygru fwyaf, fel gwaharddiadau neu ffioedd.
Rwy'n cydnabod pryderon y gallai cyfyngiadau mynediad fod yn fwy o ergyd i'r rhai lleiaf abl i uwchraddio neu adnewyddu eu cerbydau ac efallai y bydd yn fwy anodd iddynt dalu unrhyw ffioedd mynediad y gellid eu cymhwyso. Mae'r fframwaith yn glir y dylid cynnal asesiad o effaith economaidd i werthuso effeithiau posibl a allai ddeillio o unrhyw gyfyngiadau a fydd yn gymwys mewn parth aer glân a phennu mesurau lliniaru posibl i gyfyngu ar unrhyw ganlyniadau negyddol. Dylai'r asesiad ystyried effaith bosibl lawn parth aer glân arfaethedig, ac rwy'n disgwyl iddynt bwyso a mesur y costau a'r manteision yn ofalus. Rhaid i unrhyw gamau a gymerir i fynd i'r afael â materion ansawdd aer fod yn gymesur ac yn unol â'n gofynion lles cenedlaethau'r dyfodol. Bydd angen hefyd i gyfyngiadau mynediad ar gerbydau fynd law yn llaw â gwelliannau i'r mynediad at foddau trafnidiaeth eraill, llai llygrol. Mae'r fframwaith yn hyrwyddo newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, gan leihau allyriadau a thagfeydd yn fawr nid yn unig yn y parth aer glân, ond ar ffyrdd cyfagos hefyd.
Mae ymgysylltu'n effeithiol â'r cyhoedd a chymorth yn ganolog i lwyddiant y parthau aer glân. Byddwn yn datblygu mesurau cyfathrebu ac ymgysylltu i godi ymwybyddiaeth o'r problemau iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd aer gwael i sicrhau bod y cyhoedd yn cael yr wybodaeth lawn ac yn deall y rhesymau dros weithredu. Gyda hyn mewn golwg, yfory byddaf yn lansio gwefan Ansawdd Aer yng Nghymru, un newydd a gwell, a fydd yn rhoi mynediad dwyieithog i bawb at wybodaeth ynghylch ansawdd aer yng Nghymru. Bydd yn darparu gwybodaeth fyw ar lefelau cyfredol llygredd aer a'r lefelau a ragwelir ar gyfer eu hardal, yn ogystal â mynediad at ddata hanesyddol ar lygredd aer. Mae'r wefan newydd yn darparu deunyddiau addysgol, gemau ac offer newydd ar gyfer ysgolion a gwybodaeth cyngor iechyd well.
Yfory, byddwn hefyd yn cyhoeddi'r ymgynghoriad ar gynllun atodol Llywodraeth Cymru i gynllun y DU ar gyfer mynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid wrth ymyl y ffordd 2017. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lleihau crynodiadau o nitrogen deuocsid o gwmpas ffyrdd lle mae'r lefelau yn uwch na'r terfynau cyfreithiol yn yr amser byrraf posibl.
Mae Gweinidogion Cymru wedi derbyn nad oedd adran Cymru o gynllun 2017 yn bodloni gofynion y gyfarwyddeb ansawdd aer amgylchynol a rheoliadau cysylltiedig Cymru yn ystod adolygiad barnwrol yn gynharach eleni. Cyhoeddir yr ymgynghoriad hwn a'r cynllun cysylltiedig i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymwneud â chydymffurfio cyfreithiol yn unig. Mae'n ymwneud â chymryd camau i wella ansawdd yr aer i bawb yng Nghymru ar gyfer y gwelliannau iechyd y bydd hyn yn eu cyflawni ac oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Cyhoeddir cynllun terfynol fydd yn cydymffurfio erbyn 31 Gorffennaf 2018 yn unol ag achos llys.
Ar hyn o bryd mae'r allyriadau nitrogen deuocsid yng Nghaerdydd a Chaerffili—Hafodyrynys—ac mewn pum man arall ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru, yn uwch na chyfyngiadau cyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd. Mae astudiaethau ar y gweill i nodi mesurau sy'n debygol o gyflawni cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf posibl. Cyfrifoldeb uniongyrchol Llywodraeth Cymru yw gormodiannau ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd. Cyn cwblhau'r gwaith modelu manwl yn ystod yr haf, rydym yn cyflwyno mesurau cymedrol megis terfynau cyflymder 50 mya dros dro a marciau ffordd i hwyluso llif y traffig. Caiff y rhain eu gweithredu erbyn diwedd mis Mehefin ar y darn o'r ffordd lle mae'r lefelau nitrogen deuocsid yn uwch na therfynau'r gyfarwyddeb ym mhob un o'r lleoliadau canlynol: yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy; yr A483 ger Wrecsam; yr M4 rhwng Cyffyrdd 41 a 42; yr M4 rhwng cyffyrdd 25 a 26 yn ystod y nos, gan ddefnyddio'r seilwaith presennol i nodi terfyn cyflymder newidiol; a'r A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd. Rydym wedi sefydlu bod gan y camau gweithredu hyn y posibilrwydd o gyflawni'r gwelliannau mwyaf i ansawdd yr aer, a hynny ar unwaith.
Hoffwn sicrhau'r Aelodau ein bod, fel Llywodraeth, yn cymryd y mater hwn yn ddifrifol iawn. Rwy'n ymrwymo i sicrhau bod y camau gweithredu a nodwyd yn y cynllun yn cael eu cyflawni er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau statudol yn yr amser cynharaf bosibl. Yn bwysicach na hynny, mae'r cynllun hwn yn ymwneud â gwneud y peth iawn ar gyfer ein hamgylchedd ac ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau a'n gwlad. Yn olaf, gallaf gadarnhau heddiw ddyraniad o dros £20 miliwn ar gyfer cronfa ansawdd aer hyd nes 2021 i helpu i gyflymu'r broses cydymffurfio â therfynau nitrogen deuocsid a gwella ansawdd aer yng Nghymru. Defnyddir hwn i ddarparu cymorth, arweiniad a chyllid parhaus i alluogi cynghorau i ddatblygu a gweithredu cynlluniau a chymryd camau i gydymffurfio cyn gynted â phosibl. Dechrau ein taith i sicrhau aer glân i Gymru, a chefnogi cenedl iach, yw'r camau yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw. Ond dim ond y dechrau yw hyn. Ein huchelgais ar y cyd yw bod yn arweinydd ar gyfer aer glân yng Nghymru.