Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 24 Ebrill 2018.
Mae angen inni edrych ar sut yr ydym ni'n gwahardd cerbydau nad ydynt yn rhai hybrid yn gynharach o lawer nag y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud—2042, rwy'n credu, yw'r dyddiad yn y fan yno. Hoffwn glywed beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl am hynny. Mae angen dyfeisiau monitro llygredd yr aer yn ein trefi a'n dinasoedd, yn enwedig y tu allan i ysgolion ac ysbytai, parthau aer glân, sydd wedi'u crybwyll, ond credaf fod angen sail gyfreithiol iddynt, ac, wrth gwrs, grymuso awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd ac annog traffig sy'n llygru llai, boed yn rheolaethau ar ddiwrnodau penodol neu i ardaloedd penodol. Nawr, ceir awgrym o'r rhain yn y datganiad, ond, er enghraifft, dydw i ddim yn gweld sut y gall awdurdodau lleol gyflwyno taliadau oni bai fod gennym ni sail ddeddfwriaethol i hynny ac oni bai bod y Cynulliad hwn wedi rhoi trosolwg o sut y dylai hynny weithio.
Felly, y cwestiwn cyntaf sydd gennyf i'w ofyn i'r Gweinidog, mewn gwirionedd, yw—wyddoch chi, mae hi yn sôn y byddai hi'n ceisio datblygu deddfwriaeth newydd, os bydd hi'n canfod bylchau. Wel, byddwn i'n dweud wrthi bod y bylchau i'w gweld. Mae'r bylchau yn glir ac mae'r bylchau yno yn ein methiant i ymdrin â'r broblem iechyd cyhoeddus hon sy'n achosi 2,000 o farwolaethau cynamserol y flwyddyn yng Nghymru. Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni ymrwymiad cadarnach oddi wrthych chi i ddatblygu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i ategu'r hyn a ddywedwch yn eich datganiad?
Yr ail fater yr hoffwn ei godi yw monitro ansawdd aer. Rydych chi wedi sôn am ganolfan asesu i Gymru; wrth gwrs, rydym ni'n croesawu'r datblygiad hwnnw. Fodd bynnag, a ydych chi'n argyhoeddedig ein bod ni'n monitro ansawdd aer ar hyn o bryd yn ddigonol yng Nghymru? Fy nealltwriaeth i, o ohebu ag awdurdodau lleol, o siarad ag ymgyrchwyr, yw nad yw llawer o'r hyn a elwir yn orsafoedd monitro yn ddyfeisiau monitro amser real o gwbl; maen nhw'n cymryd cyfartaledd dros gyfnod o amser, hyd yn oed dros fis. Nid yw llawer ohonyn nhw y tu allan i ysgolion, er enghraifft, yn monitro amser real rhwng hanner awr wedi wyth a naw o'r gloch pan fydd plant yn agored i'r llygryddion gwaethaf. Felly, a ydym ni'n deall maint y broblem hon, mewn gwirionedd? Rydych chi'n dweud yn eich datganiad lle mae'r problemau—ffyrdd penodol, ardaloedd penodol. Rwy'n credu ei bod hi'n ddyfnach a chredaf ein bod yn gweld, mewn asthma a'r problemau anadlu a welwn yn ein plant ifanc, fod gennym ni broblem sylfaenol gyda hyn.
Felly, yr ail bwynt yw: a ydym ni'n mynd i wella ansawdd ein monitro aer, monitro amser real, a hynny'n gysylltiedig â gwefan? Unwaith eto, mae hynny'n ddatblygiad i'w groesawu, gwefan ar ei newydd wedd, ond gadewch inni ei gysylltu fel y gall pobl eu hunain weld, 'Os byddaf yn gyrru fy SUV i fy ysgol leol yn lle cerdded hanner milltir, dyma'r effaith y byddaf yn ei chael'. Mae angen inni ddechrau'r sgwrs honno yng Nghymru.
Rydych chi'n hollol gywir, wrth gwrs, i ddweud y gallai ymdrin ag ansawdd aer, yn enwedig yn ein trefi a'n dinasoedd, gael effaith anffodus ar y rhai sydd lleiaf abl i ddelio â chostau ceisio canfod math arall o drafnidiaeth ac ati. Felly, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael â'ch cydweithwyr, yn enwedig Ken Skates, wrth gwrs, ynglŷn â seilwaith bysiau? Gwnaeth y Sefydliad Bevan gynnig diddorol ychydig fisoedd yn ôl, mewn gwirionedd, na fyddai'n costio cymaint â hynny i fod â thrafnidiaeth am ddim ar fysiau yn ein dinasoedd, ac efallai y byddai hynny'n tynnu oddi ar y pethau llygredd aer. Ond mae angen meddwl yn radical, yn enwedig y defnydd o hydrogen bellach yn ein trefi a'n dinasoedd fel ffordd o wella ansawdd aer yn sicr. Gallech chi barhau i fod â chwestiwn ynghylch sut y caiff yr ynni ei roi i mewn i hydrogen o hyd, ond byddai ansawdd yr aer yn sicr yn gwella llawer drwy ddefnyddio hydrogen. A gwahardd cerbydau nwyddau trwm, yn enwedig o ganol ein dinasoedd a'n trefi ar adegau penodol—. Rwy'n credu bod y ffaith bod cerbydau nwyddau trwm yn teithio trwy ein trefi a'n dinasoedd ar yr un pryd ag y mae plant yn cerdded i'r ysgol—ac rydym ni eisiau iddyn nhw gerdded a beicio i'r ysgol—yn broblem benodol.
Y pedwerydd pwynt yr hoffwn ei wneud yw i ba gyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ei mentrau eraill. Rwy'n sylweddoli nad yw rhai o'r rhain yn rhan o'ch cylch gwaith uniongyrchol chi, ond clywsom y dydd o'r blaen bod Aston Martin yn annhebygol, mewn gwirionedd, o ddatblygu cerbyd SUV trydan yng Nghymru. Mae'n codi'r cwestiwn o beth yn union y mae Aston Martin yn ei wneud yng Nghymru—a ydyn nhw'n datblygu'r dechnoleg fwyaf modern yma? TVR, eto a ddenwyd yma gan arian Llywodraeth Cymru, y £10 miliwn ar gyfer y ganolfan modurol ym Mlaenau Gwent—a yw hwnnw'n edrych ar drydan a hydrogen a cherbydau ôl-danwydd ffosil a thrafnidiaeth, neu a ydym ni'n defnyddio arian Llywodraeth Cymru i ymestyn y broblem sydd gennym ni eisoes yn ein trefi a'n dinasoedd? Rwy'n credu bod angen ateb hynny hefyd cyn y gallwn ni ddeall mewn gwirionedd a yw'r hyn yr ydych wedi'i nodi heddiw yn mynd i gael effaith wirioneddol. Rwy'n sylweddoli nad ydych chi'n rheoli'r rhai hynny yn uniongyrchol, ond mae'n rhaid i weddill y Llywodraeth sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda chi i wneud i hyn weithio.
Ac yna cwestiwn olaf, os caf i, ynghylch y gronfa ansawdd aer, yr ydych chi wedi'i chyhoeddi heddiw. Unwaith eto, rwy'n croesawu bod cronfa ar gael. I fod yn glir, a yw honno dros ddwy neu dair blynedd ariannol? Oherwydd, pan rydych chi'n dweud 2018-21, gallai hynny fod yn ddwy flynedd neu'n dair blynedd ariannol. A sut fyddwch chi mewn gwirionedd yn gwneud hynny ar gael nawr, trwy awdurdodau lleol yn ôl bob tebyg—a yw'n broses o wneud cais? A ydych chi'n mynd i gyfarwyddo ar lefel strategol genedlaethol lle y mae angen i'r arian hwnnw fynd, neu a fyddwn ni'n gweld, yn anffodus—gallai ddigwydd—y bydd rhai awdurdodau mewn sefyllfa well i wneud cais amdano? Hoffwn i weld bod hyn, yn gryno, yn fformiwla sy'n seiliedig ar angen ac yn gronfa yn seiliedig ar angen sydd mewn gwirionedd yn ymdrin â'r rhannau mwyaf ofnadwy hynny o Gymru sy'n dioddef o lygredd aer ar hyn o bryd.