Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 24 Ebrill 2018.
Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu ymrwymiad y Gweinidog i gymryd camau i leihau llygredd aer yng Nghymru er mwyn cefnogi dyfodol iachach ar gyfer ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a'n gwlad. Mae'r mater hwn yn uchel iawn ar fy agenda i hefyd, gan mai fi yw'r Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe ac mae gennym ni broblemau mewn rhai o'n cymunedau, fel Hafod, lle mae cyfuniad o dopograffeg a thraffig yn arwain at ansawdd aer gwael iawn.
Ond rydym ni wedi bod yn y fan yma o'r blaen: dioddefodd Llundain yn y 1940au a'r 1950au o 'smog'—cyfuniad o fwg a niwl—a oedd yn lladd pobl. Gweithredwyd ynghylch hynny. Heddiw, rydym ni'n gwybod bod llygredd yn yr awyr agored yn lladd pobl drwy glefyd y galon a strôc—rydym ni'n gwybod hynny, ac mae taer angen gweithredu. Croesawaf, yn y parthau aer glân, y ceir dulliau o reoli mynediad traffig i hybu gostyngiad yn lefelau cyffredinol traffig a chyfyngu ar y niwed i'n hiechyd a'r amgylchedd a achosir gan y cerbydau sy'n weddill. Mae hyn yn rhywbeth y mae taer angen amdano yn nifer o'n cymunedau.
Mae gen i un cwestiwn, a chredaf y gall 'ie' neu 'na' ei ateb: a yw hyn yn golygu y gall awdurdodau lleol gyflwyno rheolau mynediad-yn-unig ar gyfer cerbydau nwyddau trwm, yn enwedig y rhai hynny sy'n lorïau diesel?