Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae'r Aelod yn codi nifer o bwyntiau pwysig o ran cymell pobl ac, mewn gwirionedd, ynglŷn â phwysigrwydd gweithio ochr yn ochr sy'n agored i ni, i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael i leihau allyriadau, lleihau cyflymderau heb edrych mewn gwirionedd ar sut y defnyddiwn dechnoleg fodern i gefnogi'r newid moddol mewn trafnidiaeth a cherbydau trydan. Edrychaf ymlaen at—rwy'n sicr bod yr Aelod yn mynd i gofnodi ei daith ar Twitter ac ar gyfryngau cymdeithasol i ni, a dymunaf bob lwc iddo.