Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 24 Ebrill 2018.
A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelod o ogledd Cymru am ei gwestiynau a'i bwyntiau? Canolfan asesu a monitro ansawdd aer Cymru —ffurfiwyd y Ganolfan i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch mynd i'r afael â llygredd yn seiliedig ar dystiolaeth ac y blaenoriaethir y camau cysylltiedig i sicrhau'r gorau ar gyfer iechyd a llesiant y cyhoedd, ac mae angen i hynny fod yn unol â'n rhwymedigaethau i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac mae'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais ynglŷn â sicrhau ein bod yn gweithio'n draws-lywodraethol ar y pethau hyn. Wrth gyfeirio at ei gwestiwn ar Bontnewydd, cymeradwywyd ansawdd aer fel blaenoriaeth ac mewn gwirionedd mae'n sicrhau bod pob un ohonom yn gweithio—. Dyna pam yr wyf yn gweithio'n rheolaidd yn draws-lywodraethol, yn cysylltu â swyddogion ac ar lefel weinidogol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.