Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Yn fy marn i, o ran pethau fel buddsoddi i arbed, cynllun aer glân a pharthau aer glân, credaf fod cyngor Caerdydd yn un o'r meysydd sydd wedi ei nodi yn un o ormodiant, ac fel y dywedais wrth eich cyd-Aelod Julie Morgan, rwyf i wedi bod yn cydweithio â chyngor Caerdydd, a bu swyddogion mewn cysylltiad agos â nhw, ynghylch hynny. Felly, mae'r rhain i gyd yn bethau y gellir eu hystyried yn rhan o'r cynllun a'r rhaglen wrth symud ymlaen, a pharthau aer glân.
Nid wyf yn wleidydd a fyddai'n hoffi dyfalu a gwneud pethau i fyny, felly ynglŷn â'r A48, byddaf yn cael eglurhad ynghylch hwnnw ichi ac yn dod nôl at yr Aelod. Credaf mai eich pwynt cyntaf yw'r pwysicaf o bell ffordd: mae ansawdd aer a mynd i'r afael â hynny cyn bwysiced â mynd i'r afael â diogelwch ar y ffyrdd. Ac, mewn gwirionedd, rhaid inni weithio ar draws y pleidiau, ac ar draws haenau o Lywodraeth, ac ar draws sefydliadau o fewn y gymuned. Fel y dywedais o'r blaen, rydym yn gostwng terfynau cyflymder, nid yn unig i gythruddo gyrwyr, nid i godi ffioedd na dim, nid i godi refeniw, mewn gwirionedd mae rheswm y tu ôl i hyn, a chredaf os byddai unrhyw awdurdod yn ystyried codi ffioedd, yn enwedig o fewn y parthau aer glân, yna byddem yn ystyried rhoi unrhyw elw tuag at fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus.