Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch. Rwyf yn ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, am roi eiliad neu ddau imi, neu eiliad efallai i fod yn fwy cywir— [chwerthin.]—gair cyflym a chwestiwn yn unig ynglŷn â cherbydau trydan. Cawsom drafodaeth ar reoleiddio cerbydau a chyfyngu ar draffig a chyflwyno terfynau cyflymder fel pe bai dim bwriad gennym i ymdrin â'r nifer enfawr o gerbydau peiriant tanio mewnol. Yn Norwy, ym mis Rhagfyr, am y tro cyntaf roedd gwerthiant cerbydau trydan yn fwy na gwerthiant ceir gyda pheiriannau tanio mewnol, a dylem ni yma yng Nghymru anelu at hynny.
Nawr, mae cynhyrchwyr cerbydau trydan (EV) eraill ar gael, ond rwyf yn ddiolchgar iawn i Renault UK am fenthyg cerbyd trydan imi yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn i mi—gan gynnwys elfennau eraill o'm gwaith—deithio i lawr i'r Cynulliad Cenedlaethol, lle byddaf yn cysylltu â'r pwyntiau trydanu newydd sydd yma, gobeithio, ym Mae Caerdydd. Ond a allwn ni gael sicrwydd, yn hytrach na llusgo'n traed, fel y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud, yn anffodus—rydych chi'n cael trafferth dal i fyny heb sôn am fod ar y blaen—y byddwn ni yng Nghymru yn ceisio ymuno â chwyldro'r unfed ganrif ar hugain ym maes y cerbydau trydan? Oherwydd edrychwch ar ddinasoedd fel Dundee, lle maen nhw led cae ar y blaen, edrychwch ar gymhellion y gellir eu cyflwyno—beth am barcio am ddim i bobl â cherbydau trydan? Beth am fynediad i leoedd i bobl â cherbydau trydan? Dylech gymell a gwneud cenhadaeth y Llywodraeth hon yn un ragweithiol i sicrhau nad y peiriant tanio mewnol yw dewis cyntaf pobl ond mai'r dewis hollol amlwg yw EV.