Pwynt o Drefn

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:19, 24 Ebrill 2018

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n codi'r pwynt o drefn gan fod newyddion yn torri, ac rwy'n gofyn am eich cymorth, mewn ffordd, i weld a oes modd i'r Cynulliad drafod y newyddion yma. Y sefyllfa yw ei bod hi'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cytundeb gyda'r Blaid Geidwadol yn San Steffan ynglŷn â'r Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd, ynglŷn â'r pwerau fydd yn cael eu datganoli a'r pwerau fydd yn cael eu cadw yma. Rwy'n clywed y bydd cyfnod o saith mlynedd, neu bum mlynedd, pan fydd pwerau'n cael eu cadw yn San Steffan a ddim yn dod i'r Cynulliad. Nawr, efallai bod y cytundeb yma yn werthfawr i'r Llywodraeth, ond y safbwynt yr ydw i â diddordeb ynddo fe yw beth sydd gyda ni fel Aelodau Cynulliad i ddweud dros hyn. A oes yna rywun wedi gofyn i wneud datganiad brys, Llywydd, ynglŷn â'r materion hyn, neu a oes modd i Aelodau Cynulliad, fel finnau, ofyn am ddatganiad brys nawr neu ryw fath o eglurhad gan y Llywodraeth o beth yn union yw'r sefyllfa?