Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 25 Ebrill 2018.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod rheolau ynghylch mynediad at gludiant i'r ysgol wedi'u diffinio o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae gan bob plentyn sy'n byw ddwy filltir o ysgol gynradd hawl i ddefnyddio cludiant yr awdurdod lleol. Mae gan bob plentyn sy'n mynychu'r ysgol uwchradd ac sy'n byw dair milltir o ysgol uwchradd hawl i ddefnyddio cludiant yr awdurdod lleol.