Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch am eich ateb, ond fel y gwyddoch, mae dirywiad anhygoel wedi bod mewn addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru, fel yr amlygwyd gan y British Council. Yn anffodus, mae hynny hefyd yn wir mewn rhannau eraill o'r DU, ond yma yng Nghymru, rhwng 2002 a 2016, gostyngodd nifer y disgyblion sy'n astudio iaith dramor hyd at safon TGAU 48 y cant, gyda gostyngiad o 44 y cant ar lefel Safon Uwch. Felly, mae'r niferoedd absoliwt bellach yn gywilyddus o isel, ac mae amryw resymau wedi'u crybwyll am hyn, gan gynnwys goruchafiaeth pynciau gorfodol a hyd yn oed gweithrediad Bagloriaeth Cymru. Felly, sut y bydd prosiect 'Dyfodol Byd-eang' yn sicrhau unrhyw newid sylweddol? Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r duedd yn dal i fod ar i lawr.