Disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:27, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lynne. Mae 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl' yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn. Gan weithio gyda phartneriaid, rydym yn benderfynol o oresgyn yr heriau penodol sy'n wynebu rhai grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr, nad yw eu cyflawniad, er enghraifft, yn 16 oed, yn cyrraedd lle y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno'i weld.