Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 25 Ebrill 2018.
Wel, rwy'n falch iawn o gydnabod llwyddiant yr ysgol honno, gan adeiladu ar yr hyn a wnaeth Estyn yn 2016 pan gydnabu fod yr hyn sy'n digwydd yn ysgol Gorllewin Mynwy yn darparu cyfleoedd gwych i blant a phobl ifanc o'r gymuned Sipsiwn/Teithwyr. Maent yn cadw'r plant hynny yn yr ysgol, ac maent yn mynd yn eu blaenau i gyflawni'n dda iawn, ac maent wedi canolbwyntio'n fawr ar adeiladu cysylltiadau cryf iawn gyda theuluoedd a rhieni yn y gymuned honno. Rwy'n ymwybodol o bwysigrwydd caniatáu i rai ysgolion, sy'n cynnwys plant Sipsiwn/Teithwyr, gyflwyno plant yn gynnar, yn enwedig yng nghyfres arholiadau'r hydref, gan ein bod yn cydnabod mai dyna'r unig gyfle, o bosibl, i'r plant hynny sefyll arholiad cyhoeddus. Dyna oedd un o'r prif resymau ar flaen fy meddwl y llynedd pan wnaethom ein penderfyniadau ynghylch cyflwyno cynnar, a dyna pam na waharddasom gyflwyno cynnar yn gyfan gwbl, gan y byddai hynny wedi amddifadu'r ysgolion hynny, a'r plant hynny, o'r cyfle i sefyll eu harholiadau ffurfiol. Mae'n gwbl briodol, yn yr achosion hynny, fod plant yn cael eu cyflwyno'n gynnar, a dyna pam yr ydym yn parhau i ganiatáu i ysgolion gael y dewis hwnnw, lle y gallant ganiatáu i blant sefyll arholiadau'n gynnar pan fydd hynny er budd gorau'r plant, ac mae Ysgol Gorllewin Mynwy wedi dangos bod buddiannau'r plant hyn yn bwysig iddynt.