Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch, Dawn. Cyllidebwyd y byddai gwariant gros ysgolion ym Merthyr Tudful y llynedd dros £50 miliwn. Mae hynny 3 y cant yn uwch nag yn 2016-2017. Dirprwyodd Merthyr Tudful 87 y cant o'r cyllid i ysgolion, gan roi cyllideb ddirprwyedig o dros £43 miliwn. Dyna gynnydd o 4 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac rwy'n falch o ddweud mai dyna oedd y cynnydd canrannol mwyaf a welsom mewn unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru.