9. Dadl Plaid Cymru: Y grant ar gyfer gwisg ysgol

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:10 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 7:10, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Nawr, gwn fod yr Aelodau Llafur yn y Cynulliad hwn yn enwedig wedi cael eu pigo gan y penderfyniad hwn. Rwy'n siŵr y byddai Gweinidogion blaenorol wedi dod o dan bwysau tebyg i gael gwared ar y grant ar gyfer gwisg ysgol, ond fe wnaethant wrthsefyll hynny, wrth gwrs. Fe wnaethant wrthsefyll hynny mae'n debyg oherwydd eu bod yn gwybod pa mor sensitif a pha mor allweddol oedd hyn i rai o'r cymunedau tlotaf y maent yn eu cynrychioli. Ond dyna ni, mae'n debyg mai dyna'r math o gyfaddawd y mae meincwyr cefn Llafur yn gorfod ei wneud am gael Democrat Rhyddfrydol mewn Llywodraeth.