Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n codi i gynnig y ddadl yma yn enw Plaid Cymru, sydd yn ceryddu y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ddiddymu y grant gwisg ysgol, oherwydd mae'r grant, fel rydym ni'n gwybod, wedi rhoi cefnogaeth allweddol bwysig i nifer fawr o deuluoedd—y teuluoedd tlotaf yna yng Nghymru—i fedru sicrhau bod eu plant nhw yn cael gwisg ysgol i fynd i'r ysgol. Mae 5,500 o ddisgyblion wedi cael cefnogaeth gan y grant y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae'n cael ei werthfawrogi gan awdurdodau lleol, gan ysgolion—rŷm ni'n clywed am hanesion gan yr undebau athrawon sut mae athrawon unigol weithiau yn gorfod mynd i'w pocedi eu hunain i brynu peth gwisg ysgol i ddisgyblion. Felly, mae unrhyw gwestiwn am yr angen am y math yna o gefnogaeth yn gwestiwn gwag, i bob pwrpas. Ac, wrth gwrs, yn bwysicach na dim byd, mae'n cael ei werthfawrogi gan y rhieni yna sy'n ei chael yn anodd i gael dau ben llinyn ynghyd, ac i'r plant yna, wrth gwrs, sydd yn derbyn cinio ysgol am ddim.
Mae'n warthus o beth fod Llywodraeth Lafur, neu Lywodraeth sy'n cael ei harwain gan Lafur, beth bynnag, yn torri'r gefnogaeth hanfodol honno i'r tlotaf a'r mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas ni, a hynny ar yr amser, wrth gwrs, pan fod ei angen e gymaint ag erioed, os nad yn fwy, felly. Ar yr adeg y mae'r Ceidwadwyr yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn torri ar y gwasanaeth lles, ac yn torri nôl ar y gefnogaeth i'r tlotaf mewn cymdeithas, pan fo costau byw ar gynnydd a chyflogau'n crebachu, y peth olaf y byddem ni'n ei ddisgwyl gan Lafur yw hyn.
A gadewch inni daro ar ei ben yr honiad yma ei bod hi'n wastad wedi bod yn fwriad cyflwyno cynllun amgen. Nid oedd neb, yn sicr, o feinciau cefn Llafur yn gwybod hynny pan ddaeth y newydd i'r amlwg. Nid oedd sôn am gynllun amgen pan adroddwyd gyntaf ar y toriad yn y cyfryngau. Os oedd e'n fwriad, wel, iawn, ond oni ddylai cynllun amgen fod yn ei le cyn diddymu yr un presennol? Hynny yw, mi ellid bod wedi osgoi yr holl ddryswch a'r holl ofid ymhlith rhai o'r aelodau mwyaf bregus ac anghenus yn ein cymdeithas ni.
Ac ymateb cyntaf Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, pan ddaeth y newyddion, oedd dweud yn ddigon di-hid, os caf ddweud, fod cost gwisg ysgol wedi gostwng erbyn hyn beth bynnag. Wel, rydw i ac eraill wedi gweld ar wefan Sefydliad Bevan sut roedden nhw'n disgrifio hyn fel rhyw fath o mealy-mouthed justification am doriad a fyddai'n arbed swm cymharol fychan i'r Llywodraeth, ond, wrth gwrs, yn gost aruthrol i'r rhieni mwyaf anghenus. Rydym ni'n gwybod bod y gost ar gyfartaledd bob blwyddyn i dalu am wisg ysgol uwchradd erbyn hyn yn £316, yn ôl y Teaching Times, ac ar yr un pryd mae'r IFS yn amcangyfrif bod y teuluoedd oed gwaith tlotaf sydd â phlant yn mynd i weld eu hincwm nhw yn gostwng 20 y cant rhwng 2015 a 2020. Felly, mae'r teuluoedd tlotaf yna angen y gefnogaeth yma yn fwy nag erioed.
Nid mater o fynd i'r archfarchnad i brynu y dillad ysgol rhataf yw e erbyn hyn, wrth gwrs. Mae nifer cynyddol o ysgolion yn mynnu bod rhaid prynu dillad ysgol wedi eu brandio o gyflenwyr penodol. Nawr, rydw i'n rhiant yn Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun, ac mi aethon nhw drwy broses o gyflwyno gwisg ysgol newydd yn ddiweddar—ac mi ddylwn i ddatgan diddordeb fel rhiant, mae'n siŵr, yn y mater hwnnw, ac mi wnaf i hynny. Ond, wrth gwrs, ar yr adeg honno, fe ddadleuodd nifer o rieni yn y wasg leol y gallech chi fod yn prynu trywsus ysgol sydd dair gwaith yn rhatach o ddarparwyr eraill. Mae yna stori debyg wedi bod yn ddiweddar yn sir Fynwy, ac rydw i'n gwybod y bydd nifer o Aelodau fan hyn yn gyfarwydd â'r stori honno.
Mae ymchwil gan Gymdeithas y Plant yn dangos bod dros 70 y cant o rieni yn dweud erbyn hyn eu bod nhw bellach yn gorfod prynu peth neu'r cyfan o wisg ysgol eu plant o gyflenwyr penodol. Mae eu dadansoddiad nhw yn datgelu y gallai rhieni ar draws Prydain arbed cannoedd o filiynau o bunnau petai nhw'n cael prynu dillad ysgol o gyflenwyr rhatach. Ond roedd ymateb Llywodraeth Cymru fod dillad ysgol yn rhatach erbyn hyn, mae'n rhaid i fi ddweud, yn sarhaus, yn galon oer ac yn dangos i nifer ohonom ni gymaint allan o gysylltiad y maen nhw â realiti bywyd heddiw.
Nawr, rwy'n rhannu siom, ac yn wir, digalondid Comisiynydd Plant Cymru am y penderfyniad yma. Nid oedd yn glir yng nghynnig cyllidebol y Llywodraeth, ac nid ydy e wedi bod yn destun unrhyw fath o ymgynghoriad cyhoeddus. Penderfyniad unochrog—unilateral—gan y Llywodraeth yw hyn. A oes yna asesiad effaith hawliau plant wedi bod? A oes yna asesiad effaith cydraddoldeb wedi ei baratoi? A ydy'r Llywodraeth wedi rhoi sylw dyledus i'r ddyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus neu i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn? Mae'r rhain oll yn gwestiynau sydd heb eu hateb ac y dylid fod wedi'u hateb cyn i'r penderfyniad gyrraedd y pwynt y mae wedi'i gyrraedd erbyn hyn.
Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae rhai siroedd yn dweud nawr eu bod nhw am drio, efallai, camu i'r adwy mewn rhai llefydd, ond yn edrych ble y gallan nhw dorri o fewn eu cyllidebau presennol er mwyn gwneud hynny, felly mi fydd rhywbeth yn gorfod rhoi yn yr ardaloedd hynny. Rydw i wedi siarad ag awdurdodau lleol ar draws y gogledd ac mae o leiaf hanner ohonyn nhw wedi dweud na fydd unrhyw gefnogaeth ar gael ganddyn nhw fel awdurdodau lleol, ac felly mae'r prospect yn real na fydd y gefnogaeth ar gael yn yr ardaloedd hynny.
Ac mae yna batrwm fan hyn, os caf i ddweud, mae yna batrwm yn dod i’r amlwg: torri grant neu gyllideb, mae yna adwaith allan yn y wlad, wedyn sgramblo i adfer y sefyllfa ac wedyn mae yna ddryswch o gwmpas rhyw quick fix i drio adfer y sefyllfa. Fe welsom ni hynny gyda’r grant cyflawniad ethnig lleiafrifol, y MEAG—grant yn cael ei ddiddymu, adwaith cryf i’r toriad hwnnw, Llywodraeth Cymru, wedyn, yn ffeindio rhyw bres o arian wrth gefn ac yn coblo rhyw drefniant amgen at ei gilydd, ac nid yw awdurdodau lleol yn dal ddim yn glir, gyda llaw, sut y bydd hynny’n cael ei ddosbarthu ar lefel ranbarthol. Mae’r un peth yn digwydd eto fan hyn: torri’r grant gwisg ysgol, adwaith negyddol eithriadol a chyhoeddi wedyn, 'O na, na, mae yna ryw gynllun amgen'—digon annelwig ar hyn o bryd—'ar y gweill'. Nid ydych chi’n twyllo neb. Mae’n shambles llwyr. Mae’n teuluoedd tlotaf ni’n haeddu gwell; mae’n plant mwyaf difreintiedig ni’n haeddu gwell ac mae Plaid Cymru’n mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adfer y grant gwisgoedd ysgol.