Part of the debate – Senedd Cymru am 7:02 pm ar 25 Ebrill 2018.
Rhaid imi symud ymlaen, os nad oes ots gennych. Er gwaethaf agenda cyni—[Torri ar draws.] Er gwaethaf agenda cyni sydd wedi arwain at 5 y cant o doriad mewn termau real i gyllideb Cymru, sy'n cyfateb i oddeutu £900 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus, rydym yn parhau i flaenoriaethu cyllid i gefnogi'r bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas, ac mae'n syndod clywed gan Llyr, a oedd yn cwestiynu wythnos yn ôl yn unig a ddylai'r grant datblygu disgyblion sy'n buddsoddi £93 miliwn yn addysg ein plant tlotaf, a ddylai hwnnw barhau, ond rhaid imi ddweud ei bod hyd yn oed yn fwy o syndod clywed gan Darren Millar y prynhawn yma ynghylch gofal ffug, pan fo polisïau ei Lywodraeth ef yn San Steffan yn gorfodi teuluoedd i fyw mewn tlodi.
Fel y dywedais o'r blaen—fel y dywedais o'r blaen, rwyf wedi ymrwymo i barhau—