Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 25 Ebrill 2018.
Mae 5,500 o fyfyrwyr yn elwa ar y grant gwisg ysgol gwerth £700,000. Dyna £700,000, sy'n llai nag 1/150 o gyllideb Llywodraeth Cymru—hanner yr hyn y mae eich Llywodraeth yn ei wario ar bitsas a dillad hwylio moethus ar gardiau credyd, ond mae'n dal i fod yn ormod i'r Llywodraeth hon.
Pris gwisgoedd ysgol oedd y cyfiawnhad a roddwyd dros gael gwared ar y grant hwn. Ar gyfartaledd, mae rhieni'n gwario £108 ar ddillad ysgol ar gyfer plant ysgol gynradd a £126 ar gyfer plant ysgol uwchradd. Pan fo traean o blant Cymru'n byw mewn tlodi, toriadau i fudd-daliadau yn parhau i effeithio ar y bobl dlotaf a defnydd o fanciau bwyd ar gynnydd, tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn hoffi ailadrodd heddiw ei chyfiawnhad gwreiddiol pam y mae gwisgoedd ysgol yn ddigon rhad i rieni eu prynu—byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld.
Mae Sefydliad Bevan wedi galw'r cyfiawnhad hwn yn un mursennaidd. Roedd y comisiynydd plant yn synnu ac yn digalonni ynglŷn â'r penderfyniad a thynnodd sylw at hynodrwydd y penderfyniad i ddileu cymorth ariannol ar gyfer gwisgoedd ysgol wrth lansio cronfa ar gyfer cynnyrch misglwyf a fyddai o fudd i'r union blant y mae'r grant hwn yn eu helpu—penderfyniad rhyfedd iawn, a ddaeth i sylw pawb yn yr un wythnos ag y daeth rhaglen wrth-dlodi flaenllaw'r Llywodraeth, Cymunedau yn Gyntaf, i ben heb fod unrhyw raglen arall i gymryd ei lle. Mae Cymdeithas y Plant wedi dweud y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio'n negyddol ar les a gallu plant i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol. Yn dilyn pwysau anorchfygol, mae'n ymddangos y caiff y Llywodraeth ei gorfodi i ddarparu rhyw fath o gymorth ariannol, ond mae faint, erbyn pryd a sut y bydd yn gweithio eto i'w datgelu. Ni fydd troeon pedol a pholisi heb ei gynllunio'n iawn byth yn strategaeth lwyddiannus ar gyfer helpu'r traean o blant Cymru sy'n byw mewn tlodi i lwyddo.
Heddiw, rwyf am roi cyfle i'r Gweinidog ein goleuo ni a'r cannoedd o deuluoedd sy'n wynebu toriadau i'r grant hollbwysig hwn. A allwn gael sicrwydd pendant y bydd grant newydd ar waith ymhell cyn i'r tymor ysgol nesaf ddechrau? O ran hynny, a fydd unrhyw un ar ei golled o ganlyniad i'r penderfyniad hwn? Faint yn union o arian a gaiff ei ddyrannu i'r grant newydd, ac a fydd unrhyw newidiadau i gymhwysedd ar gyfer y rhai sy'n gallu ei gael? Pa fecanwaith a fydd ar waith ar gyfer craffu ar unrhyw grant newydd, a beth fydd rôl y Cynulliad hwn yn y broses honno?
Yn olaf, hoffwn ofyn i'r Gweinidog unwaith eto: beth a'i hysgogodd i ddileu'r grant hwn yn y lle cyntaf? Pa asesiad effaith a gynhaliodd? Pwy yr ymgynghorwyd â hwy? Ac a wnaiff hi ailystyried ei phenderfyniad?